YMGYRCH HANES CYMRU

          Tan-y-dderwen, Penmachno, Betws-y-coed LL24 0PS

          owaintan@hotmail.com                          01690 760335

 

Kirsty Williams AC

Gweinidog Addysg

Llywodraeth Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

15 Tachwedd 2019

 

Annwyl Kirsty Williams

 

Ysgrifennwn atoch yn dilyn cyhoeddi Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.

 

Tra’n croesawu pob un o argymhellion yr Adroddiad, mae Argymhelliad 2 o ddiddordeb arebennig i Ymgyrch Hanes Cymru, sef y dylai’r Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes er mwyn galluogi pob disgybl i ddeall sut mae ei wlad wedi cael ei dylanwadu gan ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun hanesion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol.

 

Sylweddolwn yn llawn fod y Cwricwlwm Drafft yn yn cynnig cyfleoedd i ysgolion roi sylw llawn i hanes Cymru a’i fod pwysleisio y dylai fod yn ganolog i’r hyn a astudir oddi mewn i Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Ond mae tystiolaeth sylweddol, gan gynnwys adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru yn 2013 a chanfyddiadau’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, yn dangos yn glir mai amrywiol ac anghyson yw’r sylw a roddir i hanes Cymru ar hyn o bryd.

 

Ofnwn nad yw darpariaeth y Cwricwlwm Drafft fel ac y mae ar hyn o bryd yn ddigonol i sicrhau fod hyn yn newid ac y bydd dyhead clodwiw y cwricwlwm arfaethedig i weld hanes Cymru’n cael ei ddysgu i bob disgybl yn cael ei wireddu.

 

·         Mae angen dynodi corff cyffredin o gynnwys sylfaenol a fyddai’n berthnasol i ysgolion ledled Cymru er mwyn sicrhau y bydd gan ddisgyblion Cymru ddealltwriaeth greiddiol o ddatblygiad y Cymry fel pobl dros y canrifoedd.

 

·         Byddai dynodi’r corff cyffredin yma o wybodaeth yn parhau i ganiatau digon o hyblygrwydd i athrawon lunio meysydd llafur a rhaglenni astudio fyddai’n adlewyrchu nodweddion lleol, diddordebau eu disgyblion a’u gweledigaeth hwy o’r hyn fyddai’n berthnasol i’w hysgolion.

 

·         Heb y corff cyffredin yma o wybodaeth, gallai ysgolion ddewis astudio pynciau o ddiddordeb lleol yn unig gan amddifadu eu disgyblion o’r cyfleoedd i ddygu am Gymru gyfan fel gwlad.

 

 

 

 

 

·         Pe byddai’r corff cyffredin yma o gynnwys sylfaenol yn cael ei ddynodi, gellid canolbwyntio ar lefel gendlaethol ar baratoi a darparu amrywiaeth deniadol o adnoddau craidd o safon uchel a fyddai’n ddefnyddiol i bob ysgol. Fel y nodwyd gan lawer o ymatebwyr i’r Ymgynghoriad ar y y cwricwlwm newydd, bydd baich aruthrol ar ysgwyddau athrawon os bydd angen iddynt lunio rhaglenni astudio a’r adnoddau cysylltiedig ar gyfer ysgolion unigol.

 

Galwn arnoch i weithredu argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Bydd dynodi craidd o wybodaeth sylfaenol yn dasg heriol a dylid mynd ati’n ddi-ymdroi i drefnu bod paneli neu weithgorau o ymarferwyr ac arbenigwyr yn cael eu sefydlu i gyflawni hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn gywir,

 

 

Eryl Owain

Cyd-lynydd Ymgyrch Hanes Cymru